10/02/17

Mae'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn mynd i gynnal arolwg o'r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Gwynedd gyda'r bwriad o ystyried a llunio cynigion ar gyfer trefniadau yn y dyfodol.

Byddai'r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud. Mae'r cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 10 Chwefror 2017, ac yn cau ar 31 Mai 2017.

Bydd y Comisiwn yn ystyried unrhyw sylwadau a gânt yn ofalus cyn paratoi eu Cynigion Terfynol i'w cyflwyno i Llywodraeth Cymru.