Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi ei gynigion drafft ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Fynwy.
Gallwch weld y cynigion ar y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cyrmru || Dogfen LDF (jdi-consult.net), eu cymharu â'r trefniadau presennol a gwneud unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud.
Mae'r cyfnod ymgynghori 12 wythnos yn dechrau ar 17 Rhagfyr 2020 ac yn cau ar 10 Mawrth 2021.
Ar ôl y dyddiad hwn bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl sylwadau derbyniwyd, yn paratoi Argymhellion Terfynol ac yn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal â'r porth ymgynghori, gellir anfon sylwadau yn ystod y cyfnod hwn at:
ymholiadau@ffiniau.cymru
neu
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Tŷ Hastings
Caerdydd
CF24 0BL