18/12/18
Arolygon Etholiadol

Cyflwynwyd Adroddiad Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer Cyngor Sir Gwynedd i Weinidogion Cymru ar 6 Tachwedd 2018. Llywodraeth Cymru a’i Gweinidogion fydd yn penderfynu sut i symud ymlaen. Fel arfer, byddant yn gwneud Gorchymyn.

Mae’r Adroddiad Argymhellion Terfynol yn cynnwys holl argymhellion y Comisiwn ar gyfer Sir Gwynedd. Lle mae wedi gwneud newidiadau i’r trefniadau presennol, mae disgrifiad o’r newid, y cynrychiolaethau a dderbyniwyd, y rhesymau am unrhyw newid a map o’r cynigion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. 

Hoffai’r Comisiwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i wneud cynrychiolaethau, yn ogystal â’r Cyngor Sir am ei gymorth wrth gynnal ar arolwg.

Mae’r adroddiadau, mapiau a gwybodaeth ategol arall ar gyfer yr arolwg i’w gweld isod.

Lawrlwytho Dogfen