04/05/18
Arolygon Etholiadol
Byddai'r Comisiwn yn mynd i gynnal arolwg o'r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe gyda'r bwriad o ystyried a llunio cynigion ar gyfer trefniadau yn y dyfodol. Byddai'r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud.
Mae'r cyfnod ymgynghori 12 wythnos yn dechrau ar 4 Mai 2018 ac yn cau ar 26 Gorffennaf 2018.
Wedi'r dyddiad hwn bydd y Comisiwn yn paratoi Cynigion Drafft ar gyfer trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe. Bydd hyn yn rhoi cyfle pellach ar gyfer gwneud sylwadau a chyflwyniadau.